Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Lleddfu Effeithiau Ffrwydradau Nwyol gyda Throchion Dwr* Brodor o Bentre Berw, Ynys Môn yw Alwyn Jones. Mae ñ gyn-ddisgybl o Ysgol Gyjun Llangejni ac aeth odd iyno i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth lle y graddiodd mewn ffiseg. Aeth ati i ennill gradd MSc am ei ymchwil arjjìsegyr atmosffer ac astudiaethau ag emwlsiwn niwclear, a gradd PhD am eiastudiaeth o ffìseg ffrwydradau. Bellach mae'nymchwilyddynygrŵpjjrwyd- radau yn yr Adran FJìseg yn Aberystwyth. Cyflwyniad Yn ystod y blynyddoedd diweddar, daeth nifer o ddamweiniau diwydiannol difrifol i'r amlwg. Ymhlith y fwyaf adnabyddus o'r rhain, mae'n debyg, yr oedd y drychineb a ddigwyddodd ar lwyfan olew Piper Alpha ym 1988.1 Yno, bu farw 165 o bobl o ganlyniad i'r ffrwydrad (Ffigur 1) ac achoswyd difrod dychrynllyd i'r llwyfan ei hun. Cyn hyn, y ddamwain ddiwydian- nol enwocaf oedd yr un yn Flixborough ger Scun- thorpe ym 19742 lle yr anafwyd 89 ac y lladdwyd 28. Nid annisgwyl felly yw'r sylw a roddir mewn diwydiant i ffyrdd o atal ffrwydradau rhag cynnau yn Ffigur 1 Y ffrwydrad ar Piper Alpha. ALWYN JONES y lle cyntaf, neu i'r ffyrdd hynny o liniaru eu heff eithiau unwaith y maent wedi'u cynnau. Dylid pwysleisio ar y dechrau bod gwahaniaeth sylfaenol rhwng ffrwydrad ar lwyfan olew neu mewn gweith- feydd diwydiannol a thân mwy cyffredin megis mewn ty. Daw'r gwahaniaeth hwn i'r amlwg wrth ystyried y ffordd y llosga'r tân mewn perthynas â'r cyfrwng llosgadwy. Gan amlaf, gelwir y Frigâd-Dan i ddelio â thanau statig, hynny yw, tanau sy'n llosgi goruwch y tan- wydd sy'n eu cynnal. Er enghraifft, pan losga dodref- nyn, llyfr neu gar, fe erys fflamau'r tân yn agos at wyneb y deunydd sy'n llosgi. Yn ychwanegol, mae'r broses o losgi yn un sy'n parhau dros amser gweddol