Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Sarn Badrig, Cantre'r Gwaelod a dinasoedd coll Bae Ceredigion: Golwg o'r Gofod Y chwedl Mae chwedlau am foddi tir ar hyd arfordir Prydain a Llydaw yn gyffredin. Enghreifftiau o'r chwedlau hyn yw'r rhai sy'n gysylltiedig â Llys Helig ger Penmaen- mawr a Chaer Arianrhod ger Caernarfon, ond yr enwocaf ohonynt i gyd yw hanes Cantre'r Gwaelod sy'n gorwedd, yn ôl y gred, dan ddyfroedd Bae Ceredigion (Ffigur 1). Rhan o'r dystiolaeth am fodolaeth Cantre'r Gwaelod yw Sarn Badrig a welir o'r tir uwchben y môr ger Harlech, pan fydd y llanw'n isel, yn ymestyn tua 22 kilometr i'r môr. Mae Sarn Badrig yn un o'r riffiau bas mwyaf o gwmpas Ynysoedd Prydain, ac mae ganddi ran ganolog, fel un o furiau'r cantref, yn y chwedl (Ffigur 2). Nid y fan hyn yw'r lle priodol i drafod datblygiad y chwedl. Gwnaed hyn yn barod gan Rachel Brom- wich, ond bydd o ddiddordeb i nodi rhai o'r ffynonellau. Yn llawysgrif Llyfr Du Caerfyrddin a ddyddir tuag OC 1200, mae cerdd yn cyfeirio at foddi tir ond nid oes cyfeiriad at unrhyw Ie arbennig. Cyfeirir at Seithennin yn y gerdd, ond ni roddir unrhyw fai arno am y boddi a phriodolir y gerdd i Wyddno. Mewn llawysgrif o'r eiddo Robert Vaughan o Hengwrt (1592-1677) nas cyhoeddwyd tan 1795, dywedir the Irish Ocean, which so beateth the skirts thereof (that according to our British histories), a whole cantred, or hundred, called Cantre'r Gwaelod, stretching itself west and south-west above twelve miles in length, and no small part of this country, hath been overwhelmed by the sea and drowned, and still a great stone-wall, made as a fence against the sea, may clearly be seen, from the mainland, to extend from Harddlech towards St David's land, a great way, and is called Sarn Badrig, i.e. Patrick's Street or Bad-rwyg, i.e. the boat or ship breaking causeway.'3 Yn ôl Lewis Morris (1701 -65), 'It was overflowed by the sea about the year 500'.4 Yr oedd hyn oll i arwain at y fersiwn modem o'r chwedl a ddisgrifir gan T. Gwynn Jones 'Cantre'r Gwaelod was a fertile territory extending from the Teifi to Bardsey Island, forty miles in length and twenty in breadth. In it there were 16 noble cities. It was defended from the sea by an embankment and slui. es. In the time when Gwyddno Garanhir was lord of t! e Cantref, Seithennin was keeper of the Embank- mer: and he was a drunkard. One evening when there was a great banquet, Seithennin, having drunk much Win left open the sluices. The sea broke through and °nl; a few of the inhabitants escaped. When the sea is Ver still and the water clear the great walls and other buD lings can be seen; and the faint music of the chu ch bells, as they are gently moved to and fro by JOHN P. MATTHEWS Ffigur 1 the water in the depth, can be heard coming up in very quiet weather'.5 Mae F. J. North6 wedi trafod yr anghysonderau sydd yn chwedl Cantre'r Gwaelod. Buasai'n rhaid i lefel y dwr godi rhwng 20 a 40 metr i foddi'r ardal. Yn ôl ffurf ddiweddar ar y chwedl dyddiad y llifogydd oedd tuag OC 600, ond nid oes tystiolaeth hanesydd- ol am y fath ddigwyddiad yn y cyfnod yma. Yn gyn- taf, mae'n anodd gweld sut y gellid defnyddio Sarn Badrig fel morglawdd, oherwydd ei sefyllfa a'i chyfeiriad mewn perthynas â'r gwyntoedd mwyaf cyffredin o'r de-orllewin. Mae North yn dyfalu i'r agwedd yma ar chwedl Sarn Badrig, ddod i fodolaeth yn sgil datblygiadau yn yr Iseldiroedd, neu ar ôl i ran o'r Cob ger Porthmadog gael ei ddymchwel gan dymestloedd ym 1812. Hefyd mae'n rhyfedd nad oes unrhyw gofnod cyfoes yn sôn am Gantre'r Gwaelod. Pe buasai'r ardal yn bodoli tuag OC 600, mae'n sicr y