Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GOLYGYDDOL gellach sefydlwyd patrwm newydd o gyhoeddi ym meysydd gwyddoniaeth a thechnoleg yng Nghymru. Daeth Delta i fodolaeth er mwyn ceisio rhoi cyfle i gynulleidfa ehangach na'r hyn yr apeliodd Y Gwyddonydd ati yn ystod ei 30 mlynedd cyntaf. Yn naturiol, felly, nid oedd lle i erthyglau mwy academig eu naws yn y cylchgrawn newydd. Gwelwyd cyfyngu ar y math, ac yn arbennig ar hyd yr erthyglau a gyhoeddwyd yn Y Gwyddonydd hefyd yn y gorffennol. Diwallwyd peth o'r angen hwnnw gan Trafodion Y Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol, am rai blynyddoedd. Bellach mae lle i'r math mwy uchelgeisiol o erthygl ar dudalennau Y Gwyddonydd. Ar y dechrau, beth bynnag, unwaith y flwyddyn y bydd Y Gwyddonydd yn ymddangos. Eisoes roedd gennym rai erthyglau addas ar gyfer Y Gwyddonydd mewn llaw. Daeth ambell un arall i law, wedi eu bwriadu ar gyfer Delta ond, er bod ynddynt gynnwys diddorol, teimlem nad oeddynt yn addas ar gyfer y cylchgrawn hwnnw. Bydd gofod hefyd yn cael ei roi i gyhoeddi testun darlithoedd arbennig, megis darlith flynyddol Walter Idris Jones yn Aberystwyth. Bydd hefyd nifer o erthyglau yn deillio o gynhadledd flynyddol Y Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol. Hyderwn y bydd y patrwm cyhoeddi newydd hwn wrth fodd y sawl sy'n darllen am wyddoniaeth a thechnoleg yn Gymraeg. Byddwn yn croesawu unrhyw gyfraniad, sylw neu awgrym unrhyw bryd. Mae copi o'r canllawiau ar gyfer ysgrifennu ar gael ar y dudalen hon. Rhaid pwysleisio mae gwaith gwirfoddol aelodau'r Bwrdd Golygyddol sy'n cynnal y ddau gylchgrawn, ac mae angen cefnogaeth ymarferol arnom bob amser, felly peidiwch â bod yn swil o ddod a chynnig rhywbeth. Os mai rhywbeth i'w gyhoeddi sydd gennych i'w gynnig, mae cael copi ar ddisg cyfrifiadur (gweler manylion isod) o'r testun ac unrhyw ddiagramau o gymorth mawr i ni ar gyfer prosesu'r gwaith. lolo ap Gwynn Rhagfyr 1994 Canllawiau Mae pob croeso i chwi yrru erthyglau neu Iythyrau at y Golygydd. Dyma'r canllawiau y dylid eu dilyn wrth baratoi neu olygu erthygl ar gyfer Delta neu Y Gwyddonydd: Cyffredinol 1. Os yn bosib dylid danfon copi cyfrifiadur o bob cyfraniad (hyn i gynnwys y lluniau a diagramau os yn bosib). 2. Gellir derbyn ffeiliau dros y rhwydwaith 'Internet'. Cysyllter â'r Golygydd (iag@aber.ac.uk) i wneud hyn. 3. Gellir derbyn ffeiliau ar ddisgiau MS.DOS o bob math, neu ar safon MAC os nad yw hynny'n bosib. 4. Mae ffeiliau testun ASCII, Word neu Wordperfect yn addas. Os oes unrhyw amheuaeth defnyddier ffeiliau *.txt neu ASCII. 5. Hoffem dderbyn ffeiliau darluniau ar ffurf Coreldraw os yn bosib; byddai safon *.GIF neu *.TIF hefyd yn dderbyniol. 6. Hoffem dderbyn ffotograffau, a lluniau tebyg, ar ffurf *.GIF neu *.TIF. Termau 1. Defnyddir bob amser y term a argymhellir yn yr eirfa swyddogol briodol (neu'r fersiwn cyntaf yn y rhestr pan gymeradwyir mwy nag un fersiwn).* 2. Pe digwyddai i'r term fod yn absennol o'r rhestrau swyddogol, argymhellir defnyddio'r fersiwn a geir yn y Geiriadur Termau. 3. Os nad yw'r term ar gael yn yr un o'r cyhoeddiadau hyn argymhellir mabwysiadu neu fathu fersiwn Cymraeg yn unol â'r egwyddorion a ymgorfforir yn y cyhoeddiadau uchod. (Am fanylion am wahanol agweddau ar hanes trosi ac addasu termau technegol i'r Gymraeg gweler Berian Williams (1985), Ysgrifau ar Addysg Gymraeg (gol. D.G. Edwards, Janem Jones) 1, 49-52; J.E. Caerwyn Williams (1969), Taliesin 19, 58-72; RE. Hughes (1990), Nid am un Harddwch laith, ynghyd â'r sylwadau rhagarweiniol i'r gwahanol restrau.) Y cyhoeddiadau sy'n bennaf perthnasol i erthyglau ar gyfer Delta a Y Gwyddonydd yw: Termau Daearyddiaeth (CBAC, 1981), Termau Bioleg, Cemeg, Gwyddor Gwlad (CBAC, 1982), Termau Ffiseg a Mathemateg (CBAC, 1983), Termau Meddygol (Gwasg Prifysaol Cvmru, 1986), Enwau Blodau, Llysiau a Choed (Gwasg Prifysgol Cymru, 1969) a Termau Milfeddygol ac Amaethyddol (Gwasg Prifysgol Cymru, 1994).