Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gwaddol Gwyddonol Coleg Caerfyrddin R. ELWYN HUGHES 'Roedd Coleg Caerfyrddin yn un o'r Hen Academïau gynt a agorwyd yn nechrau'r ddeunawfed ganrif i ddiwallu'r angen am addysg uwch ymhlith plant ymneilltuwyr. Am nifer o resymau, gosodai rhai o'r hen academïau hyn bwyslais neilltuol ar astudiaethau gwyddonol neu 'natural philosophy', a defnyddio terminoleg y cyfnod.1 Ar lefel ymarferol, credid gan rai fod deall mathemateg, a'r dull gwyddonol o resymu, yn gymorth i feistroli cymhlethdodau rhesymeg (logic); a chredid fod rhesymeg, yn ei thro, yn rhan bwysig o arfogaeth y darpar weinidog neu offeiriad. Tybed ai dyna un o'r rhesymau paham y brithwyd tudalennau'r papurau diwinyddol Cymraeg yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, â chynifer o bosau rhifyddol? Dylid cofio hefyd fod y traddodiad 'crefydd naturiol' yn rym pwerus yng nghylchoedd diwinyddol hyd at ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Prif ddadl 'crefydd naturiol' oedd fod dadlennu cyfrinachau natur a deddfau'r byd materol, yn dystiolaeth atodol i'r athrawiaeth Gristnogol trwy danlinellu doethineb a gallu creadigol Duw. Credai gwyddonwyr adnabyddus megis Robert Boyle ac Isaac Newton mai prif arwyddocâd eu darganfyddiadau gwyddonol oedd cryfhau'r dystiolaeth dros fodolaeth Duw. Yn y Gymraeg, pwysodd Williams Pantycelyn yn drwm ar dystiolaeth wyddonol o'r fath yn ei gerdd hir Golwg ar Deyrnas Crist (1756). Nid rhyfedd felly fod rhai o'r hen academïau wedi cynnwys elfen gref o wyddoniaeth yn eu cyrsiau. Yn Academi Daventry, er enghraifft, lle bu'r Undodwr Joseph Priestley yn fyfyriwr yn 1752, cafwyd darlithiau ar 'Newtonian Çelestial Mechanics, Hydrostatics, Optics, Pneumatics ac Astronomy' a'r cyfan gyda chymorth 'neat and pretty large philosophical apparatus'. Felly hefyd yn Academi Warrington, pan aeth Priestley yno'n diwtor yn 1761. Dymuniad Priestley oedd cael darlithio ar fathemateg a ffiseg ond penderfynwyd mai iaith a gramadeg fyddai ei faes.2 Prifathro Warrington rhwng 1770 a 1 785 oedd W. Enfield a gyhoeddodd yn 1 785 Iyfr ffiseg Institutes of Natural Philosophy. Anodd gwadu, felly, nad oedd i wyddoniaeth Ie amlwg ac anrhydeddus yn yr hen academïau anghydffurfiol ac nid oedd Caerfyrddin yn eithriad yn hyn o beth. Mae'r hyfforddiant gwyddonol a gyfrennid yno hyd at, dyweder, ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn arwyddocool nid yn unig o safbwynt y berthynas galeidosgopig rhwng crefydd a gwyddoniaeth ond hefyd fel rhan o ddatblygiad addysg wyddonol yng Copi Coleg Caerfyrddin o'r 'llyfr gwyddonol pwysicaf erioed' Nghymru. Hyd at yn gymharol ddiweddar yn y ganrif ddiwethaf Coleg Caerfyrddin oedd un o'r ychydig sefydliadau addysgol yng Nghymru ond odid yr unig un roi pwyslais dyladwy ar astudiaethau gwyddonol. Llyfrau gwyddonol I gyflawni hyn rhaid oedd cael cyflenwad digonol o Iyfrau priodol, ynghyd â pheth offer gwyddonol ar gyfer gwaith arbrofol. Ac yng Nghaerfyrddin fe gafwyd y ddau. Bu yn y llyfrgell yno stoc sylweddol o lyfrau gwyddonol safonol. Ac y mae'r philosophical apparaivs (chwedl cofnodion y Coleg) a oedd yno i gyd-fynd â r llyfrau hyn yn rhyfeddol o gynrychioladol o wyddonioetn