Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Argyfwng y Biosffer* EIRWEN GWYNN *Crynodeb o ddarlith Walter Idris Jones a draddodwyd gan Eirwen Gwynn yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, 9 Rhagfyr 1993. Ffisegydd ydw i o ran hyfforddiant ond ychydig o bobl sy'n gwybod hynny, hwyrach oherwydd fy mod wedi ymhél â chynifer o feysydd eraill dros y blynyddoedd. Adlewyrchu hynny y mae fy newis o destun Argyfwng y Biosffer, sef y rhan o'r ddaear, o'i chrawen i'r awyrgylch amgylchynnol, sy'n cynnwys pob creadur byw, yn llysiau ac anifeiliaid a ninnau. Ar hwn y mae ein bodolaeth yn dibynnu ac rydan ni'n prysur ei ddifetha. Dyna'r argyfwng. Ac rydw i am ofyn i ba raddau y mae gwyddoniaeth yn gyfrifol am hyn a beth fedr gwyddoniaeth ei wneud i achub y biosffer. Os anwybyddwn y posibilrwydd o ryfel niwclear am y tro nid bod hynny'n amhosibl er gwaethaf diwedd y rhyfel oer rydan ni'n dal i wynebu difodiant arafach pob math ar fywyd ar y blaned os na wnawn ni ddiwygio. Er na chychwynnodd datblygiad economaidd sylweddol tan tua 40 mlynedd yn ôl, fe wnaed mwy o ddifrod i wead brau ein biosffer yn ystod y cyfnod hwnnw na thrwy holl hanes esblygiad y ddynoliaeth dros 2-3 miliwn o flynyddoedd cyn hynny. Roedd gan ein cyndeidiau barch at yr amgylchedd ac adnoddau naturiol i'r graddau eu bod wedi datblygu arferion a chonfensiynau oedd yn cynnal cydbwysedd cywrain yr amgylchedd. Heddiw mae'r cydbwysedd wedi ei ddifetha trwy gred mewn twf di-ddiwedd, cynnydd diderfyn a gorchest dechnolegol dibendraw; a hyn wedi arwain at orboblogi, gorddefnyddio adnoddau darfodedig, arfau niwclear a lledaenu'r holl dechnoleg niwclear, llygru'r ddaear, y môr a'r aer. Mae llu o lyfrau gan wyddonwyr wedi bod yn ein rhybuddio o'r peryglon ers blynyddoedd ac adroddiadau megis The Limits of Growth, The Blueprint for Survival a Chomisiwn Brandt yn pwysleisio'r perygl o anwybyddu'r diffyg cydbwysedd rhwng y Byd Cyntaf a'r Trydydd Byd problemau ecolegol a dihysbyddu adnoddau oherwydd gorboblogi a thwf economaidd y Trydydd Byd yn ein harwain ni oll i ddistryw Roedd poblogaeth y byd yn 1000 miliwn yn 1800 ac yn codi'n raddol iawn nes cyrraedd 2500 miliwn yn 1950 ac yna'n cynyddu'n frawychus i tua 5500 miliwn yn 1993. Yn ôl y darogan mwyaf ceidwadol bydd poblogaeth o 8200 miliwn yn 2025 ond mae rhai'n darogan y bydd pethau'n waeth o lawer, yn 19 biliwn erbyn 2100. Mae un rhan o dair o boblogaeth y Trydydd Byd ar fin trengu o newyn, 15 miliwn yn marw bob blwyddyn. Mae 28 o blant yn marw o newyn ac afiechyd bob munud. Ac i gymhlethu pethau, mae hen afiechydon, y cafwyd peth rheolaeth arnyn nhw gynt, yn dechrau dychwelyd malaria, y dwymyn felen, y darfodedigaeth, heb sôn am AIDS. Er mor hanfodol y mae hybu gwrthgenhedlu yn y Trydydd Byd, nid digon hynny. Rhaid codi eu safonau byw. Rhaid rhannu adnoddau'r byd yn decach. Mae'r da eu byd yn un rhan o bump o'r boblogaeth, ond maen nhw'n cael dwy ran o dair o'r enillion. Nid yw'r gweddill, yn cynnwys yr Ail a'r Trydydd Byd, yn cael mwy nag un rhan o dair o'r enillion rhyngddynt. Mae'r Byd Cyntaf yn dibynnu ar nwyddau crai o'r Trydydd Byd i gynnal y gwahaniaeth hwn. Ar gyfartaledd, mae unigolyn o'r Byd Cyntaf yn pwyso canwaith mwy ar adnoddau'r byd nag yw unigolyn o'r Trydydd Byd. Mae mwyafrif mawr y boblogaeth yn methu cael cig o gwbl ac yn byw ar rawn a gwreiddiau gan fwya. Tua chwarter y boblogaeth sy'n bwyta cig ond maen nhw'n defnyddio 40 y cant o gynnyrch grawn y byd i borthi eu hanifeiliaid. Mae'r trefedigaethu a fu, a heddiw y cwmnïau mawr rhyngwladol, wedi cyflawni'r anfadwaith o beri i frodorion y Trydydd Byd fethu â chynnal eu patrymau byw traddodiadol. Mae'r diffeithdiroedd yn ehangu. Ers talwm roedd y brodorion wedi arfer ymdopi ac ymgynnal o dan amodau anodd. Roedden nhw'n deall