Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Systemau Gwybodaeth Daearyddol (GIS) at Reolaeth Cefn Gwlad Cymru JEREMY WILLIAMS Mae systemau gwybodaeth daearyddol (Geographical Information Systems neu GIS) bellach wedi ennill eu plwyf fel technoleg gyfrifiadurol sy'n addas at drefnu rheolaeth tir cefn gwlad. Ar fapiau papur y mae llawer sefydliad sy'n ymwneud â chefn gwlad yn cadw gwybodaeth. I wneud penderfyniadau fel arfer rhaid cyfuno sawl haenen o wybodaeth ar yr ardal dan sylw ar gyfres o fapiau. Tasg lafurus yw hon a dyma ile mae technoleg newydd GIS yn gwneud gwahaniaeth mawr. Perthyn i GIS lawer nodwedd werthfawr. Un o'r rhai symlaf yw mesur arwynebedd tir, hen dasg fyddai'n ddigon araf deg. Roedd mesur caeau oddi ar un map yn ddigon o fwrn heb sôn am orfod cyfuno mesuriadau o nifer o fapiau (e.e wrth fesur tir yn ôl tirfeddianwyr). Gyda GIS mae'r broses drosodd ar gyffyrddiad botwm, er bod rhaid gofalu fod y gwaith dechreuol o brosesu a chyflwyno'r data yn cael ei gyflawni'n ofalus. Posibiliadau Mae bas-data cyfrifiadurol yn ffordd hyblyg ac effeithiol o gadw gwybodaeth am adnoddau ac mae'n cyd-fynd â'r angen cynyddol i archwilio'r berthynas sydd rhwng y ffactorau perthnasol. Mae GIS yn foddion i asesu'r tirlun a'r amgylchedd mewn ffordd gelfydd. Er enghraifft: Mesur ar amrant arwynebedd tir a chanddo nodweddion arbennig cyffredin neu hyd llinellau megis gwrychoedd, waliau neu Iwybrau troed Llun 1 Trin caeau Ynys Enlli'n ddigidol. Llun 2 Bas-data GIS yn dangos caeau Ynys Enlli. Ystyried sawl ffactor wrth baratoi strategaethau ar gyfer trin adnoddau cefn gwlad Rhagweld, mesur ac arddangos effaith newidiadau ar y tirlun tri-dimensiwn Priod nodwedd technoleg GIS yw trin gwybodaeth ar fapiau. Mae'n hawdd creu dalgylchoedd o gwmpas pwyntiau, fectorau a pholygonau ac yna amcanfesur arwynebedd y dalgylchoedd hynny. Hawdd gweld mantais hyn wrth weithredu canllawiau llygredd a dwr. Mae creu modeli sy'n dangos rheolaeth adnoddau gwledig trwy gyfuno sawl troshaen o fapiau o ddiddordeb mawr. Gellir pwysoli dylanwad y wybodaeth ar y mapiau i reoli'r model, a gellir ystyried pob dosbarth o ddata ar bob map yn ôl ei gyfraniad i'r model. Mabwysiadodd Uned Synhwyro o Bell Prifysgol Cymru Bangor ffordd gam-wrth-gam tuag at fodelu GIS (Ffigur 1). Ar hyn o bryd mae llawer o waith yr uned yn ymwneud â darparu gwybodaeth i sefydliadau trin tir gwledig. Mae cymunedau gwledig yn dibynnu'n drwm ar fentrau amaethyddol. Dibynna natur ac amrywiaeth defnydd tir a thirlun ar reolaeth y fferm unigol neu reolaeth gymunedol ffermydd a phlwyfi. Yn y dyfodol bydd strwythur ffermydd, plwyfi ac ardaloedd gwledig yn