Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Pwysigrwydd Gwrthgyrff i'n Cyfundrefn Imwnaidd O. W. ROWLANDS* Rhagymadrodd Y mae ein cyfundrefn imwnaidd yn hanfodol inni os ydym am fyw yn y byd naturiol. Ni wnaeth neb erioed fyw mwy na deuddeng mlynedd heb gyfundrefn imwnaidd effeithiol. Cadwyd bachgen unwaith mewn yswigen blastig yn rhydd o unrhyw ficrob, a heb unrhyw gysylltiad â phobl; bwytâi fwyd sterylledig ac anadlai aer wedi ei hidlo. Ceisiodd y meddygon drawsblannu mêr ei esgyrn (sydd yn ffynhonnell y celloedd imwnaidd i gyd) oddi wrth berthynas agos iddo. Ond bu'r fenter yn aflwyddiannus a bu farw'r bachgen. Nid oedd ganddo unrhyw obaith yn y byd naturiol oherwydd bodolaeth pathogenau megis bacteria, firysau a ffyngau. Y mae'r organebau hyn yn 'gweld' ein cyrff ni fel cyfrwng bwyd. Y gyfundrefn imwnaidd sy'n ein hamddiffyn rhag y goresgynwyr hyn. Er mwyn amddiffyn ei hun y mae gan y corff sawl wrthglawdd i ddibynnu arnynt. Y rhwystr mwyaf amlwg yw'r croen sy'n gorchuddio'r rhan fwyaf o'r corff. Y mae'r croen yn ddŵrglos ac ni all llawer o'r microbau dreiddio drwyddo. Y mae'r croen hefyd yn cynhyrchu asidau brasterog sy'n wenwynig i'r microbau. Y mae gan y rhannau eraill o'r corff sydd heb groen i'w hamddiffyn ddulliau eraill o warchod. Y mae'r rhan fwyaf o secretiadau'r corff, megis dagrau, wrin ac yn y blaen, yn cynnwys ensym o'r enw dysodym ac mae hwn yn gallu gweddnewid cellfur rhai o'r microbau a'u lladd. Hefyd y mae cyfryngau anadlu y corff yn cynhyrchu llysnafedd sy'n gorlethu'r bacteria ac yn eu rhwystro rhag treiddio i mewn i'r ysgyfaint. Y mae'r blewiach sydd ar y celloedd epithelaidd yn y cyfryngau anadlu'n trosglwyddo'r llysnafedd i'r corn gwddf. Yna mae'r llysnafedd yn cael ei Iyncu ac mae'r bacteria'n cael eu lladd gan yr asid a gynhyrchir yn y stumog. Y mae'r asid hwn yn lladd y bacteria sy'n bresennol yn y bwyd a fwytawn hefyd. Y mae'r bacteria cydfwytaol sy'n bresennol yn ein cyrff hefyd yn gymorth i ni yn ein hamddiffyniad. Y mae llawer o'r rhain yn bodoli yn ein coluddion; maent yn llenwi pob cornel ecolegol ac felly'n ein cynorthwyo i wahardd rhai niweidiol. *Enillydd Gwobr Gwyn Williams, Prifysgol Cymru, Bangor Os bydd unrhyw bathogen (hynny yw, cell estron) yn medru mynd heibio'r amddiffynfa gyntaf yna mae'n rhaid i'r gyfundrefn imwnaidd ladd y gell estron ynghyd ag unrhyw wenwyn a gafodd ei gynhyrchu ganddi. Felly mae'n rhaid i'r gyfundrefn imwnaidd fedru gwahaniaethu rhwng y gell estron a'r gell letyol. Dyna nodwedd sylfaenol y gyfundrefn imwnaidd. Datblygiad y gyfundrefn imwnaidd Rhaid i bob anifail, hyd yn oed y sbyngau mwyaf syml, amddiffyn eu hunain rhag ymosodiad. Wrth astudio cyfundrefn imwnaidd yr anifeiliaid hyn gwelwn beth tebygrwydd i'n cyfundrefn ni ein hunain. Deuwn i'r casgliad feliy fod ein cyfundrefn ni ein hunain wedi datblygu'n araf dros gyfnod maith o amser nes cyrraedi y gyfundrefn gymhleth sydd gennym ni heddiw. Datblygodd rhai o'r pathogenau hefyd gan Iwyddo i oresgyn ein hamddiffyniad. Y mae'r 'ras arfau fiolegol' hon wedi gwneud llawer i lunio ein cyfundrefn. Fel yr oedd y gyfundrefn yn datblygu y mae celloedd newydd wedi eu hychwanegu at y gyfundrefn gyntefig. Y mae'r celloedd cyntefig wedi cyfannu â'r celloedd newydd fel eu bod yn cydweithio fel un gyfundrefn. Y celloedd cyntefig sy'n cyfansoddi'r 'gyfundrefn gynhenid'. Y mae'r celloedd hyn yn gweithio'n ffagocytig. Ar y llaw arall y mae'r celloedd newydd yn cyfansoddi'r 'gyfundrefn addasol'. Y mae'r rhain yn gweithio trwy gynhyrchu gwrthgyrff sy'n cynorthwyo'r gyfundrefn i ymateb i unrhyw her oddi wrth unrhyw elyn newydd. Cynhyrchu gwrthgyrff Y mae gwrthgyrff yn cael eu cynhyrchu gan griw o gelloedd a elwir yn B Iymffocytau. Y mae'r rhain yn unigryw i anifeiliaid asgwrn cefn. Molecylau protein arbenigol yw'r gwrthgyrff hyn ac maent yn clymu'n benodol wrth eu molecwl targed neu antigen. Antigen yw'r enw a roddir ar unrhyw ddeunydd estron sy'n galli ennyn ymateb imwnaidd. Mae'r gwrthgyrff yn cael eu cynhyrchu mewn sawl miliwn o wahanol ffurfiau ac ma< gan bob un ohonynt drefn wahanol o asidau amino yn rhan sy'n clymu wrth yr antigenau. Y mae'r ddamcaniaeth 'detholiad clonaidd' yn rhagfynegi y byo gan bob molecwl gwrthgorfforol (a gynhyrchir gan geî:- B unigol) yr un man clymu antigenaidd. Y mae'r gell-B