Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GOLYGYDDOL A' un olwg mae'r byd sydd ohoni heddiw yn un cyffrous a diddorol i'r gwyddonydd. Mae technoleg wedi Ilamu yrnlaen gan roi i ni offer o bob math, sy'n gwneud gwaith ymchwil yn bosibl heddiw na ellid fod wedi ond breuddwydio amdano ychydig flynyddoedd yn ôl. Mae gennym hefyd gyfrifiaduron i brosesu'r data, dadansoddi delweddau, paratoi cyhoeddiadau a sleidiau a llu o bethau eraill. Daeth cysylltiadau cyd- wladol bellach mor rhwydd, o ganlyniad i ddatblygiad y Rhyngrwyd (Internet), fel ei bod yn bosib gweithio mewn grwp ymchwil sy'n ymledu ar draws y cyfandiroedd. Gellir cyfnewid data a thrafod canlyniadau'r dydd yn rhwydd, heb oedi o unrhyw fath. Gellir hefyd archwilio'r cyhoeddiadau gwyddonol diweddaraf yn 'fyw' ar y We Fyd Eang, gan argraffu copi o bapur sydd o ddiddordeb allan yn eich ystafell ar y dydd y caiff ei gyhoeddi. Mae'r prif dai cyhoeddi i gyd yn awr yn symud i'r cyfeiriad hwn. Nid oes raid bellach aros am wythnosau i gael golwg ar gopi o bapur allweddol. Er hyn i gyd mae gennym, fel gwyddonwyr, ein pryderon. Oherwydd natur fwy soffistigedig yr offer diweddaraf, maent llawer iawn drutach. I wneud ymchwil o'r radd Canllawiau Mae pob croeso i chwi yrru erthyglau neu Iythyrau at y Golygydd. Dyma'r canllawiau y dylid eu dilyn wrth baratoi neu olygu erthygl ar gyfer Delta neu Y Gwyddonydd: Cyffredinol 1. Os yn bosib dylid danfon copi cyfrifiadur o bob cyfraniad (hyn i gynnwys y lluniau a diagramau os yn bosib). 2. Gellir derbyn ffeiliau dros y Rhyngrwyd. Cysyllter â'r Golygydd (iag@aber.ac.uk) i wneud hyn. 3. Gellir derbyn ffeiliau ar ddisgiau MS.DOS o bob math, neu ar ffurf MAC os nad yw hynny'n bosib. 4. Mae ffeiliau testun ASCII, Word neu Wordperfect yn addas. Os oes unrhyw amheuaeth defnyddier ffeiliau *.txt neu ASCII. 5. Hoffem dderbyn ffeiliau darluniau ar ffurf Coreldraw os yn bosib; byddai ffurf *.GIF, *.JPG neu *.TIF hefyd yn dderbyniol. 6. Hoffem dderbyn ffotograffau, a lluniau tebyg, ar ffurf *.GIF, *.JPG neu *.TIF. termau ì. Defnyddir bob amser y term a argymhellir yn Geiriadur Yr Academi, Gwasg Prifysgol Cymru (neu'r fersiwn cyntaf pan gymeradwyir mwy nag un fersiwn).* 2. Os nad yw'r term ar gael yn y geiriadur yna dylid cyfeirio at y rhestrau cydnabyddedig eraill*, os nad yw ar gael yno yna orgymhellir mabwysiadu neu fathu fersiwn Cymraeg yn unol â'r egwyddorion a ymgorfforir yn y cyhoeddiad uchod. Am fanylion am wahanol agweddau ar hanes trosi ac addasu termau technegol i'r Gymraeg gweler Berian Williams (1985), hçnfau ar Addysg Gymraeg (gol. D.G. Edwards, Janem Jones) 1, 49-52; J.E. Caerwyn Williams (1969), ra/es/'n 19, 58-72; R.E. Hughes (1990), Nid am un Harddwch laith, ynghyd â'r sylwadau rhagarweiniol i'r gwahanol restrau.) cyhoeddiadau sy'n bennaf perthnasol i erthyglau ar gyfer Delta a Y Gwyddonydd yw: Geiriadur Yr Academi (Gwasg prii/sgol Cymru, 1995), Termau Daearyddiaeth (CBAC, 1981), Termau Bioleg, Cemeg, Gwyddor Gwlad (CBAC, 1982), Termau %eg a Mathemateg (CBAC, 1983), Termau Meddygol (Gwasg Prifysgol Cymru, 1986), Enwau Blodau, Llysiau a Choed (Gwasg 3rií/sgol Cymru, 1969) a Termau Milfeddygol ac Amaethyddol (Gwasg Prifysgol Cymru, 1994). flaenaf, sy'n cyfateb i'r hyn sy'n digwydd mewn gwledydd eraill, mae angen yr offer ar ymchwilwyr. Ond, fel y dengys adroddiad diweddar mae labordai yn ynysoedd Prydain ymhell ar ei hôl hi yn y materion hyn. Mae 20% o holl offer labordai mewn prifysgolion dros 15 mlwydd oed, a 10% ohonynt dros 25 mlwydd oed. Mae angen dybryd i ddiweddaru'r offer hyn os ydym am fod yn siarad yr un 'iaith' â'n cyd-weithwyr mewn gwledydd eraill. Hanes llawer ohonom sydd am wneud ymchwil, gan ddefnyddio'r technegau diweddaraf, yw gorfod cyd-weithio â phobl mewn gwledydd eraill ble mae'r adnoddau ar gael. Diolch i ddatblygiad y Rhyngrwyd mae hyn yn bosib. Ond dioddef y bydd safon ymchwil os na fedrir buddsoddi'n sylweddol mewn offer yn y dyfodol agos. Bu Cymru, a'r Cymry, yn flaengar yn y byd gwyddonol o'r dechrau. Os ydym i feithrin y traddodiad hwn yma yng Nghymru, bydd angen gwario arian sylweddol. Bydd y pris a delir am esgeluso gwneud hyn yn un mwy costus byth, yn y tymor hir.