Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TELYN A THELEGRAFF Alwyn R. Owens Yn y flwyddyn 1913 fe gyhoeddwyd Llyfr Cerdd Dannau gan Robert Griffith; yno ceir rhestr fanwl a chynhwysfawr o delynorion, ac yn eu plith, y canlynol: HUGHES, DAFYDD, oedd delynor enwog, a brodor o Gemes, Trefaldwyn. Tua'r flwyddyn 1825 symudodd o Gemes i fyw ì'r Bala, ac yno y ganwyd ei dri mab enwog, Joseph, David a John. A phan oedd y tri bachgen yn fychan iawn, dechreuodd eu tad eu cymeryd ar hyd y wlad i gynnal cyngherddau. Wedi hynny symudodd eto o'r Bala i fyw i Lundain; ac o Lundain drachefn cymerodd ei drí mab i'r America, ac yno y bu Dafydd Hughes forw; ond ni wyddis pa bryd, na pha Ie yno. HUGHES, DAVID E., oedd delynor ieuanc nodedig, a mab i'r Dafydd Hughes uchod, aeth gyda'i dad i'r America, ac ni wyddis fwy o'i hanes. Yn yr un flwyddyn gwelwyd angladd Syr W.H. Preece yn eglwys hynafol Llanbeblig, ger Caernarfon. Yr oedd mawrion Lloegr yno, oherwydd yr oedd William Preece yn un o beirianwyr mwyaf dylanwadol ei gyfnod. Ato ef daeth y gwr ifanc Marconi i geisio cymorth i brofi ei ddyfais newydd i drosglwyddo negesau heb wifrau; bu'n brif beiriannydd y Swyddfa Bost, ac yn ddiweddarach yn arloeswr gyda'r sistem gyhoeddus o gyflenwi trydan. Gallasai Syr William Preece fod wedi dweud llawer o hanes David Hughes wrth Robert Griffith, oherwydd am gyfnod buont yn gyfeillion agos, yn cydweithio'n broffesiynol ac yn cyd-gyfarfod yn gymdeithasol tra'n byw yn Llundain. Yr oedd Robert Griffith yn hollol gywir yn cyfeirio at y ffaith fod David Hughes wedi diflannu'n llwyr o gylchoedd Cerdd Dant, ond serch hynny mae aml i gyfeiriad yn ei farwnadau i'w ddawn fel telynor yn y gymdeithas o wyddonwyr ac arloeswyr peirianegol yr oedd yn aelod ohoni yn Llundain, ac yn wir mae lle i amau a fyddai ei ddyfais bwysig gyntaf wedi gweld golau dydd oni bai am ei allu fel cerddor. Fe aned David Edward Hughes yn 1831; mae gwahanol awduron yn lleoli'r achlysur yn y Bala, yng Nghorwen, neu yn Llundain, oherwydd gwyddys fod ei dad, am gyfnodau, wedi byw yn y lleoedd yma i gyd yn eu tro, ond yn ôl David Hughes ei hun, Llundain oedd y fan. (Cyd-ddigwyddiad tra diddorol yw mai ym mlwyddyn ei eni y darganfuwyd yr effaith electromagnetig gan Michael Faraday, 'Tad Peirianneg Trydanol'.) Yr oedd gan Dafydd Hughes, a oedd yn delynor adnabyddus ei hun, dri mab, Joseph, David, a John. Tra oedd y tri yn fychan iawn, yr oedd eu tad yn E harwain ar hyd a lled y wlad i gynnal cyngherddau. Yr oedd y tri brawd, Joseph, yr hynaf, John, yr ieuengaf, a David Edward yn delynorion ac yn grythorion medrus, chanddynt driciau megis canu dwy delyn ar y tro (Joseph), dau frawd yn canu un delyn (Joseph a David Edward), tra byddai John, a oedd ond yn bump oed pc ymfudont, yn sefyll ar ben bwrdd i chwarae'r ffidil. Yr oedd yr hynaf, Joseph, wedi dechrau chwarae'n gyhoeddus ar y delyn yn bedair oed; pan oedd yn ddeuddeg fe gyhoeddodd gasgliad o alawon Cymreig, British Melodies. Llun o'r tri brawd allan o Iyfr Joseph T. Hughes, 'British Melodies' (Amgueddfa Werin Cymru). David Edward Hughes (6 oed) sydd ar y dde. Yn 1838 symudodd y teulu i'r Unol Daleithiau, gan dorri eu cysylltiadau â chylchoedd cerddorol Cymru. Serch hynny, yr oedd Robert Griffith yn gwybod fod Joseph wedi marw trwy foddi yn un o afonydd mawr America. Mae'n amlwg fod doniau cerddorol David Hughes yn amlygu eu hunain i gylchoedd y tu allan i ffiniau cul y telynorion traddodiadol Cymreig; daeth ei ddawn fel cerddor i sylw pianydd Almeinig o'r enw Hast a oedd yn dra enwog yn yr Unol Daleithiau, ac o dan nawdd y gwr hwnnw fe'i penodwyd yn Athro Cerdd mewn coleg yn Bardstown, Kentucky, yn 1850, ac ynta u yn 19 oed.