Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr Athro Mansel Morris Davies 1913-1 995 Fe hunodd Mansel Davies yn dawel yn ei gartref ar lan y môr yng Nghricieth ar 1 1 lonawr 1995 yn 81 mlwydd oed. Fe'i ganed ar 24 Mawrth 1913 yn fab i brifathro ysgol gynradd yn Aberdâr, Morgannwg. Daeth i Brifysgol Cymru, Aberystwyth ym 1930 o Ysgol Ramadeg Aberdâr lle'r enillodd Ysgoloriaeth y Wladwriaeth yn ychwanegol at Ysgoloriaeth Mynediad y Coleg. Graddioddd mewn cemeg ym 1933 gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf. Ym 1935 enillodd radd ymchwil M.Sc. dan arweiniad Charles R. Bury, athrylith eithriadol ym meysydd strwythur atomig, cemeg colloidau a strwythur Iliwurau organig. Yna aeth i Gaergrawnt dan nawdd Cymrodoriaeth Prifysgol Cymru i wneud ymchwil â'r Athro Eric K. Rideal at ei ddoethuriaeth ym 1938. Cyd-ddigwyddiad arwyddocaol o safbwynt Mansel ei hun a hefyd parthed dyfodol cemeg ffisegol yn Aberystwyth oedd bod yr Athro G.B.B.M. Sutherland yng Nghaergrawnt ar y pryd yn arloesi defnyddio sbectrosgopeg i archwilio strwythur cyfansoddau cemegol. Mansel oedd myfyriwr ymchwil cyntaf Sutherland ar sbectrosgopeg yr is-goch a bu'n aelod diwyd o'i dîm ymchwil am ddwy flynedd. Erbyn hyn 'roedd yr Ail Ryfel Byd ar droed ac yn unol â'i argyhoeddiad heddychol, cofrestrodd Mansel yn wrthwynebwr cydwybodol. Hawdd iawn fuasai iddo lithro'n esmwyth i un o swyddi gwyddonol y Weinyddiaeth Gyflenwi ond ni wnaeth. Yn hytrach, aeth i Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda, Arfon i ddysgu cemeg a ffiseg i'r chweched dosbarth am ddwy flynedd. Ni fu'r ysgariad gorfodol yma oddi wrth ymchwil arbrofol heb ei fendithion oherwydd yno y dechreuodd gasglu tystiolaeth eang am y bond-hydrogen; testun yr oedd i gyfrannu cymaint ato yn y dyfodol. Yno hefyd y cyfarfu â'i annwyl briod Rhiannon, yr athrawes Ffrangeg yno ar y pryd a chyn-fyfyrwraig o Goleg Aberystwyth. Fe'u priodwyd ym 1942 ac yn yr un flwyddyn derbyniodd Mansel swydd cynorthwydd ymchwil i'r Athro W. T.